
BONUS EPISODE! Dyma ran o Y Sgwrs Fyw aeth allan nos Sul ble mae Steff a Jos yn sgwrsio gyda Lauren Robinson sydd wedi symud i Llandysul o Katy, Texas! Mwynhewch a Rhannwch!
Mae'r bennod fyw ar gael i'w wylio ar dudalen Facebook Y Sgwrs.
***
Diolch i epidemicsound.com am y gerddoriaeth.
***
Feb 9, 2021
13 min

Heddiw ni'n sgwrsio gyda'r hyfryd Gareth a Lydia Power am eu profiad nhw o gerdded gyda'r Ysbryd o ddydd i ddydd! Llawn storïau i ysbrydoli a tips penigamp!
***
Diolch i epidemicsound.com am y gerddoriaeth
***
Feb 5, 2021
51 min

Heddiw ni'n clywed profiad Lois Franks o Tonypandy, ac yn adlewyrchu ar gamu mewn i'r "swigen" Gristnogol Gymreig!
***
Diolch i epidemicsound.com am y gerddoriaeth
***
Jan 22, 2021
41 min

Heddiw, wrth i ni ail gydio yn ein cyfres ar yr Ysbryd Glân, byddwn ni'n sgwrsio gyda Siân am ei phrofiadau personol o'r Ysbryd yn ei arwain ac yn gweithio ynddi a thrwyddi hi. Mwynhewch a Rhannwch!
Jan 15, 2021
40 min

Yn y bennod cyntaf o 2021 bydd Steff a Jos yn rhannu rhai o'i gobeithio am y flwyddyn i ddod - ar lefel personol ac ar gyfer Y Sgwrs!
**Diolch i epidemicsound.com am y gerddoriaeth**
Jan 8, 2021
20 min

Heddiw, ar ôl amser i ffwrdd, bydd Jos a Steff yn edrych yn ol dros y flwyddyn ac yn edrych 'mlaen i'r dyfodol. Dewch i ymuno yn Y Sgwrs am cutio'r crefydd, enneagram types, This is Us a llawer mwy!
** Diolch i Epidemic Sound am y gerddoriaeth: epidemicsound.com **
Dec 16, 2020
1 hr 10 min

Ym mhennod nesaf y gyfres ar yr Ysbryd Glân byddwn ni'n troi ein golygon at weld yr Ysbryd ar waith yn ein gwlad. Bydd Derek a Andras yn ein helpu i weld nodweddion o waith yr Ysbryd yng Nghymru.
Aug 7, 2020
28 min

Yn ail ran ein sgwrs gyda Gwil Tidz byddwn ni'n trafod doniau'r Ysbryd a'r meddyliau eu bod wedi dod i ben a'r posibilrwydd eu bod yn parhau hyd heddiw. Mwynhewch!
Jul 17, 2020
22 min

Yn y rhan nesaf o'r gyfres am yr Ysbyrd Glân bydd Gwilym Tudur (Gwil Tidz) yn ein helpu ni weld rôl a gwaith yr Ybryd yn yr Actau a llythyrau Paul.
Jul 10, 2020
19 min

Mwy o aur gan Hywel heddiw! Yn yr ail ran o'r gyfres byddwn ni nôl yn gweld yr Ysbryd ar waith trwy'r Hen Destament, a hynny'n gysgod o waith llawnach yn y Testament Newydd.
Jun 19, 2020
18 min
Load more