Podlediad Y Bardd Ar Daith
Podlediad Y Bardd Ar Daith
BBC Radio Cymru
Ifor ap Glyn, y bardd cenedlaethol, sydd ar daith i Lithwania, China a Camerwn. Byddwn yn dod i adnabod y gwledydd ac yn gwrando ar Ifor yn rhannu ei ymateb i'r wlad, ei phobl a'u diwylliant fel teithiwr ac fel bardd.
Camerŵn - Pennod 3
Yn ei bodlediad olaf o Gamerŵn, mae'r bardd Ifor ap Glyn, yn mwynhau matango neu 'win' o'r balmwydden, ac yn lawnsio llyfr yng nghanol power cut yng nghwmni'r beirdd Mike Jenkins ac Eric Ngalle Charles.
Apr 29, 2019
9 min
Camerŵn - Pennod 2
Mae'r bardd Ifor ap Glyn yn darganfod cysylltiad rhwng Bae Colwyn a Chamerŵn, ac hefyd bod bus pass Merthyr yn dderbyniol fel 'i-d' gan fyddin y wlad. Ceir cyflwyniad i hanes cythryblus Camerŵn a cheir cerdd o fawl i'r cyflwynydd radio Charles Tembei.
Apr 27, 2019
9 min
Camerŵn - Pennod 1
Mae Ifor ap Glyn, yn cyrraedd y brifddinas Yaounde i hyrwyddo cysylltiadau llenyddol rhwng Cymru a Chamerŵn, yng nghwmni'r beirdd Mike Jenkins ac Eric Ngalle Charles. Cawn gyflwyniad i'r iaith Bakweri, a bwyta malwod - a cheir cerddi i ddiolch am grys ac am ocadas.
Apr 25, 2019
11 min
Tsieina - Pennod 3
Yn ei bodlediad olaf o Tsieina, mae'r bardd Ifor ap Glyn yn cael gwahoddiad i wledda hefo Maer Chengdu ac yn profi danteithion hefo enwau od, wrth ddysgu am arferion yfed y Tsieiniaid! Mae'n perfformio yn gyhoeddus i gyfeiliant ffidil, ac yn llunio cerdd am hen bobl yn gwneud ta'i chi yng nghanol canolfan siopa.
Apr 23, 2019
9 min
Tsieina - Pennod 2
Mae'r bardd Ifor ap Glyn, yn ymweld â'r opera yn Chengdu ac yn profi rhyfeddodau 'newid wyneb', a fferins sidan. Mae'n ymweld a chartref y bardd Du Fu o'r wythfed ganrif ac yn rhoi cynnig ar gyfieithu'i waith i'r Gymraeg.
Apr 11, 2019
9 min
Tsieina - Pennod 1
Mae'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, yn cyrraedd Chengdu ar gyfer gŵyl farddoniaeth yng nghwmni 100 o feirdd o bedwar ban byd. Mae'n ymweld â chanolfan fridio pandas fwya llwyddiannus y byd ac yn dysgu am arferion blwyddyn newydd y Tsieiniaid.
Apr 9, 2019
8 min
Lithiwania - Pennod 3
Yn ei bodlediad olaf o Lithwania, mae'r bardd Ifor ap Glyn yn darganfod mai dyma'r wlad olaf yn Ewrop i gefnu ar baganiaeth. Mae'n profi pleserau cael bath mewn mwd, yn cyfarfod â siaradwr Cymraeg o Kiev ac yn sgwennu cerdd i ddathlu hyfrydwch yr hydref yng nghoedwigoedd Lithwania.
Apr 6, 2019
9 min
Lithiwania - Pennod 2
Mae'r bardd Ifor ap Glyn, yn symud i'r dref faddon Druskininkai sydd wedi bod yn rhan o 6 gwlad wahanol yn y can mlynedd diwethaf. Mae'n ymweld ag ysgol leol a chawn gerdd am ffynnon leol sy'n canu.
Apr 3, 2019
9 min
Lithiwania - Pennod 1
Mae'r Bardd Cenedlaethol, Ifor ap Glyn, yn cyrraedd Vilnius ar gyfer gŵyl farddoniaeth ryngwladol; mae'n helpu lansio antholeg ac yn cael ei gyfweld ar y gyfres gelf Kultūros Diena, ac yn llunio cerdd am fod grisiau ei westy ddim yn ffitio!
Apr 1, 2019
9 min