
Elidir a Daf yn trafod gemau cardiau, rhai corfforol a digidol, y gwahaniaethau rhwng y systemau, eu llwyddiannau a gwendidau a dipyn bach o hanes y genre is o'r nyrdfyd. Ymestynwch eich slipars, mae'n amser paned i'r clustiau.
Mar 27, 2018
39 min

Ar ôl unarddeg mis o ddisgwyl, mae Pod Wyth yn ôl! Allwch chi gredu'r peth? Wedi ei recordio, am y tro cynta erioed, efo'r cyflwynwyr yn yr un ystafell. Ac yn cynnwys sgiliau golygu proffesiynol Daf Prys. Disgwyliwch lot o jingls ffansi.
Yn rhifyn #10 (nid rhifyn #11, dim ots be 'dan ni'n ei ddweud yn y bennod):
- Yr holl gemau sydd wedi bod yn ein ticlo ni'n ddiweddar. Monster Hunter World! Celeste! Slay the Spire! Battlefield! A trafodaeth ehangach o gemau 'battle royale'.
- Yn y newyddion: blwyddyn aruthrol gyntaf y Nintendo Switch, newidiadau ar y ffordd i'r PS4, ac Assassin's Creed yn mynd yn addysgiadol.
- Gemau bwrdd! Ein hoff beth. Yn y byd. Clywch ein hargraffiadau o Inis, Kingdomino, a Hanamikoji. Wel, ai nefar.
- Be ydi ystyr 'retro'? Daf sy'n trio esbonio, ac Elidir yn saethu tyllau yn ei ddadl.
- Yr 'ogia'n trafod y dadlau ynghylch Kingdom Come: Deliverance, Kickstarter, a mudiad Gamergate. Pethau'n mynd bach yn dywyll, bois.
Mwynhewch!
Feb 26, 2018
1 hr 8 min

Sgwrs efo Elan Grug Muse a Miriam Elin Jones ynglyn a sut mae nhw'n gweld tirwedd cynrychiolaeth merched ym mydoedd gemau fideo, sci fi a ffantasi. Daf Prys sy'n sdryglo i ddal i fyny efo rhain.
May 31, 2017
38 min
