Podlediad Cylchdro
Podlediad Cylchdro
Mari Elen
Croeso i bodlediad Cylchdro, y podlediad sydd am fod yn trafod y misilf yn ei holl ogoniant. O ddydiau’r ysgol i’r menopôs. O’r panicio am toxic shock syndrome, i’r nerth ti’n deimlo wrth ymgyfarwyddo dy hun hefo dy gylchdro.
Pennod 4 - Sgwrs gyda Lleucu Siôn am Fabis, bwydo a dulliau atal-genhedlu.
Erbyn y bennod yma, mi yda ni yn ein ugeiniau hwyr / tridegau / pedwardegau, Y cyfnod pan ydan ni’n dechra teimlo’n broody. Mae’r ffarmwr isio gwraig, a rwan mae’r gwraig isio babi... Wrth gwrs, mae o’n opsiwn dyddiau yma i boycotio’r ffarmwr, sydd yn gret achos dim pawb sydd ‘isio ffarmwr nace? Ta waeth. hon ydi’r bennod lle fyddwn ni’n trafo babis, bwydo a contraception.
Feb 16, 2024
51 min
Pennod 3 - Tracio hefo Branwen Llewellyn ac Alaw Owen
Yn y bennod yma, mae Mari yn trafod  Tracio.  Sgwrs hefo Branwen Llewelyn am sut mae tracio ei mislif hi wedi helpu iddi gael rheolaeth dros ei mislif,  a sgwrs hefo Alaw Owen am sut newidiodd ei mislif hi'n llwyr a sut mae tracio wedi ei helpu hi. Mari Elen Jones - Cynhyrchu, Ymchwilio, CyflwynoDioln Jones - Golygu, Cerddoriaeth, effeithiau sain Iola Ynyr a Sioned Medi - Rheolwyr Prosiect Cylchdro  Ariannwyd gan gynllun Urddas Mislif Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Gwynedd.IG - https://www.instagram.com/cylchdro/
Sep 29, 2023
49 min
Pennod 2 - Dy fislif yn dy ugeiniau a sgwrs gyda Bethan, Endo a Ni.
Does ‘na neb yn deutha chdi sut ti fod i fod yn dy ugeiniau, y blynyddoedd allweddol ‘na pan ti’n cychwyn dy yrfau . Mae o’n gyfnod anodd a chymhleth i lot o bobl, ac un o’r pethau ‘na sydd yn gallu dwyshau y teimlad ma’ o geisio ffeindio ni’n hunain ydi... ein hormons ac ein Mislif!  Yn y bennod yma, mae Mari yn clywed sut mae eich mislif chi'n effeithio arna chi ac yn cael sgwrs pwysig iawn hefo Bethan am ei thaith hi wrth iddi gael diagnosis endometriosis a sut mae hi'n ymdopi wrth fyw hefo'r cyflwr. Mari Elen Jones - Cynhyrchu, Ymchwilio, CyflwynoDioln Jones - Golygu, Cerddoriaeth, effeithiau sain Iola Ynyr a Sioned Medi - Rheolwyr Prosiect Cylchdro  Ariannwyd gan gynllun Urddas Mislif Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Gwynedd.IG - https://www.instagram.com/cylchdro/
Sep 1, 2023
44 min
Pennod 1 - Arddegau
Yn y bennod yma, mae Mari  yn clywed am brofiadau mislifol criw o ddisgyblion Ysgol Tryfan, a sgwrs hefo'r blogiwr Arddun Rhiannon am yr  effaith cafodd ei mislif hi ar ei hiechyd meddwl, a sut wnaeth y pill ei helpu hi. Cyflwynydd / Cynhyrchydd / Ymchwilydd - Mari Elen JonesGolygu / Technegydd Sain / Cerddoriaeth - Dion Jones Gwaith Celf - Sioned Medi Arweinwyr Prosiect Cylchdro - Iola Ynyr a Sioned MediAriannwyd gan gynllun Urddas Mislif Llywodraeth Cymru trwy Gyngor Gwynedd.
Aug 4, 2023
32 min