Pod Midffîld!
Pod Midffîld!
Y bois i'r pod
Podlediad yn trafod y gyfres deledu eiconig, ‘C’mon Midffîld’ - gan y ffans, ar gyfer y ffans. Er mai fel cyfres radio y dechreuodd ‘Midffîld’, ar y sgrin fach y gwnaeth ei marc go iawn. Gethin Owen (athro) a Tom Gwynedd (hyfforddwr awyr agored) fydd yn sgwrsio, gyda Caio Iwan (newyddiadurwr) yn llywio’r drafodaeth - tri ffrind sydd wedi tyfu i fyny yn addoli ‘Midffîld’. Bydd y tri yn trafod y penodau fesul un, ac yn cael cwmni gwesteion arbennig - ac annisgwyl - ar hyd y daith. Gwaith dylunio: Celt Iwan Cerddoriaeth: Gethin Griffiths, Ciwb Hawlfraint: S4C, Rondo Media, Recordiau Sain
Pennod 7: Recap Cyfres 1
Mae'r gyfres gynta ar ben ac mae 'na wersi wedi'u dysgu. Yn y bennod arbennig yma, bydd yr hogia'n mynd drwy rai o uchafbwyntiau'r gyfres agoriadol, edrych 'nôl ar gyfraniadau'r gwesteion ac yn trafod rhai o negeseuon y gwrandawyr. Ymysg yr eitemau ar yr agenda mae Yncl Rufus, Post ar y Sul, beirdd cwsg a Geraint Wyn... Gwefan: ⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠[email protected]
Aug 22, 2023
35 min
Pennod 6: Nadolig Bryncoch
Ym mhennod ola’r gyfres, mae’r comiti yn gweld cyfle i fanteisio ar ysbryd yr ŵyl er mwyn codi pres i’r clwb. Mae Jean yn bygwth dod â gyrfa lewyrchus Tecs fel goli i ben yn gynt na’r disgwyl, tra bod Wali yn mynd o gwmpas y pentra’ yn “di-di-o”. Mae Picton - sy’n gwrthod gadael i George ddod i ddathlu ato fo a Sandra - yn derbyn ei fod o’n rhy fawr i fod yn Santa Clause. Ond pwy ydi’r person yn y wisg goch? Pwy gythraul sy’ isio twrci noson cyn Dolig? Ac yn bwysicach fyth, sut allwch chi gael watsh Gymraeg? Gwefan: ⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠[email protected]
Aug 1, 2023
23 min
Pennod 5: Y Trip
Er ei bod hi’n noswyl gêm gwpan fawr, mae’r criw allan yn clybio ym Mhrestatyn. Wrth i Wali ddarbwyllo Picton fod Sandra yn saff yn nwylo Tecs, mae’r goli cyfrifol wedi’i ddallu gan Miss Candy Floss. Yr wythnos yma, bydd yr hogia’n trafod barddoniaeth Eifion Wyn, agwedd Sandra, ac anffyddlondeb Tecs. Gwestai arbennig: Sian Naiomi Gwefan: ⁠⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠⁠[email protected]
Jul 25, 2023
49 min
Pennod 4: Traed Moch
Mae’r FA yn bryderus am ymddygiad rhai o glybiau bach y gogledd. Picton sydd â’r dasg ddi-ddiolch o achub cam Clwb Pêl-droed Bryncoch ar y weirles, tra bod George allan yn dathlu’i ben-blwydd. Yn y cyfamser, mae Breian Fawr - ar dennyn rheolwr Llaneurwyn, Ned Thompson - yn chwilio am Gordon Whitehead, sydd wedi caboli efo’i wraig o. Mae’r cyfan yn mynd o ddrwg i waeth mewn gêm danllyd rhwng y ddau dîm. Gwestai arbennig: Ian Gwyn Hughes Gwefan: ⁠⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠⁠[email protected]
Jul 18, 2023
39 min
Pennod 3: Lladron y Nos
Mae ‘na ladron ym Mryncoch a chariad yn yr aer. Ond wrth i berthynas George a Sandra flodeuo, mae sawl un yn cael bai ar gam am y dwyn. Nid ‘pwy wnaeth’ ydi’r cwestiwn ar wefusau’r hogia wythnos yma, ond yn hytrach, faint oed ydi Elsi? Pwy oedd cyflwynydd ‘Pwy ‘di Pwy?’? A pham fod Tecs yn neud rownd bost ar y Sul? Gwefan: ⁠⁠podmidffild.cymru⁠⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠ Facebook: ⁠⁠@podmidffild⁠⁠⁠ Instagram: ⁠⁠⁠@podmidffild⁠⁠ Ebost | Email: ⁠⁠[email protected]
Jul 11, 2023
26 min
Pennod 2: Seren Ddisglair
Mae Bryncoch angen streicar - ond ai “fandal” o’r dre ydi’r ateb i broblemau’r tîm? Yn yr ail bennod, bydd yr hogia’n trafod ymddangosiad cynta’ un o hoelion wyth y gyfres - y ‘number nine’ (sy’n gwisgo deuddeg) - George Huws. Gwefan: ⁠podmidffild.cymru⁠ ⁠Twitter: ⁠⁠@podmidffild⁠⁠ Facebook: ⁠@podmidffild⁠⁠ Instagram: ⁠⁠@podmidffild⁠ Ebost | Email: ⁠[email protected]
Jul 4, 2023
22 min
Pennod 1: Y Maes Chwarae
Y bennod gynta’ un, a’r comiti cynta’ un. Mae Picton yn obeithiol ar drothwy tymor newydd, ond buan iawn y mae hynny’n newid. 35 mlynedd ers ei darlledu, bydd yr hogia’n trafod y bennod agoriadol, ac yn trio ateb rhai o gwestiynau mawr bywyd - be’ ma’ Wali yn ei weiddi ar y gwartheg? A fyddai Bryncoch wedi ennill y lîg efo Ritchie yn y tîm? A sut foi oedd yr ‘hen Huw’? Gwesteion arbennig: Wyn Bowen Harries (Tiwdor) a Gwen Ellis (Jên Tŷ Cocyn). Gwefan: podmidffild.cymru ⁠Twitter: ⁠@podmidffild⁠ Facebook: @podmidffild⁠ Instagram: ⁠@podmidffild Ebost | Email: [email protected]
Jun 27, 2023
40 min
Croeso i Pod Midffîld!
Wele ddyfod, mis y mêl, mis y gwcw, mis y... mis y trêl! Gwefan: podmidffild.cymru⁠ ⁠⁠⁠Twitter: @podmidffild⁠⁠ Facebook: @podmidffild⁠⁠ Instagram: @podmidffild⁠ Ebost | Email: [email protected]
Jun 24, 2023
46 sec