
Does dim rheolau nawr gyda Mel, Mal a Jal. Wrth gloi'r gyfres mae’r tair yn gofyn be bynnag ma' nhw moen i'w gilydd i sicrhau eich bod chi yn dod i nabod nhw 2.0.
Jan 11, 2024
46 min

Ma'r 30 Mawr ar y gorwel i Mel, Mal a Jal - ydyn nhw yn hapus neu anhapus am hynny ac ydyn nhw wedi cyflawni bob dim oedden nhw wedi gobeithio neud cyn troi yn 30.
Jan 4, 2024
41 min

Mae hanner y boblogaeth yn dioddef ac yn ympodi bob mis. Nawr ma Mel, Mal a Jal yn trafod y Mislif.
Dec 28, 2023
34 min

'Ni'n Frown ac o Gymru.. mae hynny weithie'n anodd'. Trafodaeth agored a gonest am hil, Cymreictod a chymdeithas. Yw pethau'n newid er gwell neu ydym ni wedi cymryd cam yn ôl?
Dec 21, 2023
42 min

Fe ofynnodd Mel, Mal a Jal i chi rannu eich problemau, nawr dyma'r atebion.O ddêtio i gur pen gyrfa, mae'r dair yma i geisio helpu!
Dec 14, 2023
44 min

Profiadau Mel, Mal a Jal yn y gweithle. Mel, Mal a Jal discuss their experiences in the workplace.
Dec 7, 2023
41 min

Deng mlynedd ers gadael yr ysgol, mae Mel, Mal a Jal yn trafod y pethau sydd wedi newid ers hynny.Cawn glywed am aduniadau lletchwith, cyngor gyrfa gwael a’r broses hir o aeddfedu a thyfu’n gyfforddus yn eich hun.
Nov 30, 2023
38 min

Mae Mel, Mal a Jal: Dal i Siarad yn ôl!Ym mhennod gyntaf yr ail gyfres mae'r dair yn trafod 'love bombing', sef dangos cariad ar y cyfryngau cymdeithasol. Ydi hyn yn eich gwneud chi wenu neu gyfogi?!Pa mor aml ddylech chi roi llun o'ch cariad ar Insta ac yw'r dêt cyntaf yn rhy gynnar?!Mae digon o farn a chwerthin wrth i ni glywed sgwrs gignoeth am y da, y drwg a'r dychrynllyd drwy lygaid Melanie Owen, Jalisa Andrews a Mali Ann Rees.
Nov 23, 2023
37 min

Mae’r cyfryngau cymdeithasol ac aps wedi trawsnewid y ffordd mae pobl ifanc yn dod o hyd i gariad. Mae Mel, Mal a Jal wedi cael profiadau cymysg wrth eu defnyddio, gan brofi'r da, y drwg a'r crinj!Ond wrth gwrs mae aps a bywyd go iawn yn bethau gwahanol iawn.Yn enw ymchwil gwyddonol mae Mel yn rhoi cynnig ar rywbeth gwahanol a'n mynd ar dêt drwy ap ‘Thursday’; gwasanaeth sy'n gorfodi pobl i gyfarfod a’i gilydd.Ai dyma’r ffordd ymlaen, neu ai sweipio nôl a blaen yn ddiddiwedd yw ein dyfodol?!Mae gwerth gwrando i glywed stori Hugh Jackman!
Nov 21, 2022
30 min

Pa ddylanwad mae ardal eich magwraeth yn ei gael arnoch chi? Yn y bennod drawiadol yma cawn straeon o blentyndod a bywyd cynnar Mel, Mal a Jal a’u profiadau wrth dyfu fyny mewn tri rhan gwahanol o Gymru.Mae Melanie yn egluro sut y gwnaeth agweddau ac ymddygiad pobl eraill effeithio ar y ffordd roedd hi’n meddwl am ei hun fel person ifanc, a Mali a Jalisa yn trafod sut mae ardaloedd eu cartrefi nhw wedi newid.Oes gwahaniaeth rhwng magwraeth ddinesig a chefn gwlad? A pam fod disgwyliadau ychwanegol yn cael eu gosod ar bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol?Yn y bennod agored ac emosiynol yma mae Mel, Mal a Jal yn ailymweld â phrofiadau ffurfiannol da a drwg, yn trafod pwysigrwydd cynrychiolaeth weladwy a’n gofyn beth all cymdeithas ei wneud yn well.Yng ngeiriau Mal: “Dychmyga byddom ni’n adnabod ein gilydd yn 8 oed, faint byddai rhannu'r profiadau yma gyda’n gilydd wedi helpu”.
Nov 10, 2022
52 min
Load more
