Hansh: Blas Cyntaf
Hansh: Blas Cyntaf
Hansh
Cyfle i chi greu podlediad ar gyfer Hansh. Rhywbeth newydd bob mis, am bob math o bynciau, gyda lleisiau newydd a diddorol. Syniad am bodlediad? Cysylltwch gyda ni!
Ydy hi'n amser edrych ar sut i wella addysg hanes BAME mewn ysgolion?
Gyda phrotestiadau Black Lives Matter yn digwydd ledled y byd, mae Nia Morais a Marged Parry yn siarad am hiliaeth yn yr ysgol a'r gwahaniaeth y byddai addysgu pobl am hanes BAME yn ei wneud. Mae nhw'n trafod profiadau Nia o hiliaeth, pwysigrwydd dysgu am lenyddiaeth awduron BAME, a sut y gallwn gadw'r sgwrs i fynd.
Jun 16, 2020
24 min
Cadw i Fynd gyda'r Chwiorydd EmpowerMe
Yn dilyn eu podlediad ar addunedau blwyddyn newydd ym mis Ionawr, mae’r Chwiorydd EmpowerME yn ôl i sôn am sut i gadw i fynd a gwneud gwir newidiadau tymor hir i’n meddylfryd, ein bywydau a’n hapusrwydd. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o gymryd amser i edrych nôl, y ffyrdd gorau i gadw ffocws ac yn rhoi tipiau ar sut i gadw i fynd pan ma’ pethau yn mynd yn anodd. Rhybudd: Yn cynnwys iaith gref. Nodyn: Recordiwyd y podlediad cyn i’r canllawiau presennol o hunan-ynysu COVID-19 ddod yn weithredol.
Apr 1, 2020
21 min
Blwyddyn Newydd Dda gyda'r Chwirorydd EMpowerME: Addunedau
Oes pwrpas i addunedau blwyddyn newydd bellach? Sawl un sy’n cadw’i addunedau heibio i Ionawr gan wir neud newid i'w bywyd? Ydy ‘neud addunedau’n beth da neu’n beth drwg? Yn y podlediad yma mae'r mentoriaid meddylfryd Heledd a Lowri, y Chwiorydd EMpowerME, yn trafod manteision ac anfanteision addunedau blwyddyn newydd; pam eu bod yn methu, sut i ddewis yr addunedau cywir a sut mae’u cadw nhw; er mwyn gwneud gwir wahaniaeth i’n meddylfryd a’n hapusrwydd. RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref.
Jan 24, 2020
28 min
FFOTOPOD #1 - Daf a Rob
Mae'r ffotograffwyr Dafydd Nant a Rob Holding yn siarad am technegau ac yn rhoi tips tynnu lluniau.
Dec 20, 2019
32 min
Nadolig Y Morgans
Dewch i ddathlu’r Nadolig gyda’r Morgans. Yn y podlediad yma ma’ Carys a Ffion o sianel youtube The Morgans yn trafod eu hoff a cas bethau am y Nadolig a sut ma’ nhw’n dathlu fel teulu. Beth yw eu hanrhegion gorau a gwaethaf? Oes rhaid gwisgo siwmper Nadolig dros yr ŵyl? A sut wnaeth Ffion ddanfon dad i A & E un 'Dolig? RHYBUDD: Yn cynnwys iaith gref!
Dec 19, 2019
20 min
Paned Am Y Blaned....gyda Ffion a Heini
Ymunwch a Ffion a Heini yn y podlediad yma wrth iddyn nhw gael Paned Am Y Blaned a siarad am….wel….y blaned. Ma’ nhw’n trafod yr hinsawdd, protestio a sut allwn ni gyd ddefnyddio ein llais i greu newid; ac yn rhoi ei barn ar bwy sy’n neud beth, ydyn ni gyd yn gallu neud mwy neu a oes angen i rai tynnu ei bys mas er mwyn i ni allu rhwystro’r argyfwng hinsawdd. Ydi e’n iawn i deimlo ‘euogrwydd eco’? Dyle ni gyd fod fel Greta Thunberg? A beth sy’n apelio am Extinction Rebellion? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi!
Dec 5, 2019
20 min
Cysgu ("Awen" a "Sheila")
Mae Awen (Caryl Bryn) a Sheila (Mared Llywelyn) yn mynd i helpu chi ymlacio a disgyn i gysgu yn y podlediad arbennig ASMRaidd yma. Os oes ganddo'ch awydd wneud podlediad i Hansh, cysylltwch - [email protected]
Oct 25, 2019
20 min
Taith i'r Craidd
Yn y podlediad arbennig yma ma’ Tina a Nia yn sôn am eu Taith i’r Craidd: Siwrne ysbrydoledig o Fangor i Gaerdydd ar gefn beic tandem unigryw; wedi ei addasu i seiclo gyda choesau a breichiau. Ma’ nhw’n trafod y pwysigrwydd o beidio rhoi pobl mewn bocsys, pam dyle pawb wthio heibio’i limits a pha effaith gafodd y daith eithafol hon ar eu cyfeillgarwch.
Oct 24, 2019
28 min
Helo, Sut Ti'n Creu Sh*t?
Beth sy’n cysylltu bagpipes a chreadigrwydd? A ddylen ni gyd osgoi Twitter? Yn y podlediad yma mae’r dylunydd a Steffan Dafydd yn dringo mewn i ben y ‘sgwennwr’ Dyfan Lewis i ddarganfod be sy’n ei ysbrydoli i lenwi (a gwagio) ei sach creadigol, a pam benderfynodd gamu o’r pot i’r toiled ac mewn i’r byd cyhoeddi DIY. Ond, a fydd yr holl ymbalfalu yma ym mhen Dyfan yn helpu Steffan i ddeall creadigrwydd yn well? RHYBUDD: Yn cynnwys rhegi
Sep 27, 2019
24 min
Panad Parr #1 - Stacy Winson
Ymunwch ag Al Parr wrth iddo drio paneidiau gwahanol o de tra'n rhoi'r byd yn ei le. Yn y bennod gyntaf ei westai ydi Stacy Winson, dynas trawsrywiol o Lanrug, sy'n trafod Pride, dod allan, troseddau casineb ac agwedd tuag at fywyd, yn ogystal a cael panad o de fintys.
Aug 29, 2019
31 min
Load more