
Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru, podlediad hanes i blant 9-12 oed. Yn y bennod yma, mae'n dweud hanes ein nawddsant, Dewi Sant.Awdur: Llinos Mai
Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence
Golygydd sgript: Rhys ap Trefor
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Feb 23
12 min

Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Yn y bennod hon, rydyn ni'n dysgu popeth am y dyn a ddyfeisiodd Yr Urdd - Syr Ifan ab Owen Edwards.
Feb 16
13 min

Llinos Mai sy'n dod â hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân. Gadewch i ni fynd ar antur gyda'r arloeswr, naturiaethwr, gwyddonydd ac anthropolegwr o Frynbuga, Alfred Russell Wallace. Rydyn yn clywed am ei daith i’r Amazon i chwilio am rywogaethau newydd, darganfod broga sydd yn gallu hedfan yn Ynysfor Maleia, a sut y cafodd syniad pwysig iawn tra’n sâl yn y gwely. O ie, ac mae Darwin hefyd yn ymddangos! Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai
Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence
Golygydd sgript: Rhys ap Trefor
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions Ltd).
Feb 9
13 min

Rydym wedi clywed llawer am Emmeline Pankhurst ond tybed faint sydd wedi clywed am swffragét Cymraeg o Lanwern ger Casnewydd, yr Arglwyddes Rhondda, Margaret Haig Thomas? Roedd hi'n swffragét blaenllaw, yn wraig fusnes byd-eang, yn olygydd, yn ymgyrchydd dros gydraddoldeb menywod, ac oedd ar fwrdd yr RMS Lusitania pan suddodd yn Mor yr Iwerydd gan oroesi trwy ddal 'mlaen gafael ar ddarn o bren yn y môr rhewllyd am oriau. Am fenyw!Llinos Mai sy'n dod â Hanes Cymru yn fyw trwy gomedi a chân.
Jan 26
12 min

Llinos Mai sy'n cyflwyno Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed. Pwy oedd Iolo Morgannwg a beth yw ei gysylltiad gyda'n diwylliant ni heddiw? Ac o ble ddaeth y cerddi cafodd eu "darganfod" gan Iolo? Gwrandewch i gael yr ateb!Awdur: Llinos Mai
Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence
Golygydd sgript: Rhys ap Trefor
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Jan 19
11 min

Yn y bennod gyntaf, mae Llinos yn adrodd hanes arferion ac ofergoelion Blwyddyn Newydd.Cyflwynydd/ Awdur: Llinos Mai
Ymgynghorydd hanesyddol: Dr. Nia Wyn Jones
Cynhyrchydd cerddoriaeth: Dan Lawrence
Golygydd sgript: Rhys ap Trefor
Cynhyrchydd: Llinos Jones (Terrier Productions)
Jan 12
11 min

Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw drwy gyflwyniad a chân.
Yn y bennod hon, Lloyd Lewis sy'n adrodd hanes Porth Teigr.
May 31, 2024
10 min

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon cawn glywed am hanes ein hanthem genedlaethol ‘Hen Wlad Fy Nhadau’ ac am y ddau a’i hysgrifennodd hi, Evan a James James. Mae’n stori difyr sy’n cynnwys yr afon Rhondda, sgandal yn y papurau newyddion, yr Hakka, a Thywysog Cymru. Felly ar eich traed, mae’n amser i ni ganu.
Apr 26, 2024
12 min

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y gyfres ar gyfer plant 9-12 oed sy’n cymryd elfen o hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.Yn y bennod hon gawn ni hanes Sarah Jane Rees - 'Cranogwen'.
Apr 12, 2024
11 min

Llinos Mai sy'n cyflwyno cyfres arall o Hanes Mawr Cymru - y podlediad hanes i blant 9-12 oed sy'n cymryd cipolwg ar hanes Cymru ac yn dod ag ef yn fyw trwy gomedi a chân.
Yn y bennod hon, teithiwch yn ôl 900 mlynedd i ddarganfod hanes dau o dywysogion enwocaf Cymru: yr Arglwydd Rhys a Llywelyn Fawr. Er roedd y Normaniaid wedi goresgyn tiroedd Lloegr ers tro fe gymerodd sawl canrif iddyn nhw goncro Cymru, diolch i’r Tywysogion Cymreig. Byddwch yn barod am ddadleuon, rhyfela gwaedlyd a llawer o gacen.
Apr 12, 2024
11 min
Load more
