Cracio'r Corona
Cracio'r Corona
Cracio'r Corona
Pa ffordd well i ddianc o'r amser COFIDus hwn na gyda phodlediad newydd sbon? Jacob a Nest, cyflwynwyr Crac y Wawr ar Xpress Radio, sydd am chwarae gemau a chwerthin o glydwch eu cartrefi!
Cracio'r Corona Sioe 7
Pa gymeriad eiconig yw llais 'I BEEEE'?! Beth mae Jacob wedi newid amdano'i hun yn ystod lockdown? A pha raglen ar Radio Cymru sydd wedi dwyn syniad Cracio'r Corona?!😉🌈 Dewch i fyd Jacob a Nest am hanner awr i'ch diddanu yn ystod y cyfnod yma🥂
Jun 12, 2020
29 min
Cracio'r Corona Sioe 6
Yn ein chweched pennod, cawn drafod Eisteddfod T! Ac am y tro cyntaf yn y gyfres, cawn sgwrs a chân gan rywun sy’n hoffi gwneud hwyl am ein pennau…🤨🤣 A fyddwn ni'n ffrindiau erbyn y diwedd?! Aber, Bangor, Abertawe, Caerdydd..  rhwng pa brifysgolion mae'r cythrel cystadlu fwyaf? Cawn glywed gan fyfyrwyr onest!! C'mon, does dim byd gwell i'w wneud yn ystod lockdown na gwrando ar Jacob a Nest yn malu awyr!🌈☀️🥂
May 30, 2020
26 min
Cracio'r Corona Sioe 5
Llais cyfarwydd o’r llwyfan a’r sgrin yw llais ‘i beeee’ yr wythnos hon, ond pwy tybed?! A chewch glywed am ein straeon ‘hangovers’ gwaetha ni, ynghyd â phrofiadau anffodus rhai o’r gwrandawyr..😆 Digon o ddwli i lenwi wythnos arall o lockdown!🌟🌈
May 23, 2020
34 min
Cracio'r Corona Sioe 4
A ninnau ar y bedwaredd wythnos o lockdown... dyma rifyn newydd sbon o Cracio'r Corona! Cawn ein swyno gan un o gewri’r S4C yn ‘I BEEE?!’.. ond tybed pwy? A chewch glywed am yr adegau mwyaf 'cringey' Jacob a Nest! Digon o sgwrsio a lot o chwerthin 😆💫🌟🌈
May 15, 2020
30 min
Cracio'r Corona Sioe 3
Pennod newydd sbon o Cracio'r Corona, sy'n bodlediad yr wythnos ar Pod Cymru!  Cymru, Yr Iseldiroedd, Rwsia, Yr Iwcrain a Gwlad Belg: beth sydd gan y gwledydd hyn yn gyffredin? Ateb annisgwyl iawn...🏴󠁧󠁢󠁷󠁬󠁳󠁿🇦🇷🇱🇺🇧🇪 Pwy fydd  yn ymuno â'r Ynys Hunan Ynysu a thybed pa diva enwog sy;n canu ‘I beee’ yr wythnos hon?! Beth well sydd i wneud yn ystod yr amser hwn na ymuno yn y chwerthin a’r cyfrinachau gyda Jacob a Nest🌈☀️💋
May 8, 2020
29 min
Cracio'r Corona Sioe 2
Wythnos arall o lockdown a phodlediad newydd sbon o Cracio’r Corona. Cawn glywed llais cyfarwydd seleb Cymraeg yn rhoi cynnig ar ‘I Beeee’. Pwy fydd yn ymuno Jacob a Nest ar yr Ynys Hunan-Ynysu? Hanner awr o chwerthin, straeon a sgwrsio 🕺🏼💃🏼🥂
May 1, 2020
27 min
Cracio'r Corona Sioe 1
Yn y bennod gyntaf, bydd Jacob a Nest yn rhannu straeon doniol lockdown ac yn chwarae ambell gem newydd - megis eu Ynys Hunan-Ynysu a Chracio'r Cliwiau.  Dros hanner awr o chwerthin, tynnu coes - a chlip I BEEEE gan lais enwocaf Cymru!  Let's be honest,  beth arall sydd gyda chi i wneud na gwrando ar Cracio'r Corona?!?
Apr 24, 2020
35 min