
Gall blant reoli dau beth - yr hyn sy'n mynd mewn i'w cegau a'r hyn sy'n dod allan o'u cegau.
Sawl gair newydd sydd yng ngeirfa eich plant chi yr wythnos yma? A faint o lysiau maen nhw wedi eu bwyta?
Y bardd Casia Wiliam sy'n ymuno â Beth a Siôn i drafod Sam Tân, sos coch a mwsh oren.
Hefyd, oes yna wahaniaeth rhwng magu plant yn y dre ac yn y wlad?
Feb 20, 2020
28 min

“Yn yr hen ddyddie, bydde dads byth yn mynd i softplay...”
Y digrifwr Dan Thomas yw gwestai Siôn a Beth wrth iddyn nhw gymharu eu sgiliau rhianta nhw gyda rhai eu rhieni.
Hefyd, sut orau i ddelio gyda temper tantrums a meltdowns. Aaaghhh!
Feb 13, 2020
34 min

“Dwi wedi ffeindio fe’n anodd i ddweud wrth bobl fy stori i...”
Mae sgwrs gyda’r bardd Rufus Mufasa yn ysgogi Beth i rannu’n gyhoeddus am y tro cyntaf ei stori am enedigaeth trawmatig Harri a’r effaith arni hi a’i theulu.
Hefyd, ‘mum guilt’ a sut, weithiau, d’oes dim byd ni’n ei wneud yn ddigon da!
Feb 6, 2020
29 min

"O’n i’n derbyn cadernid a chysur wrth y plant drwy’r amser."
Mae Siôn a Beth yn trafod galar gyda’r digrifwr Aled Richards wnaeth fagu ei ddau fab ar ei ben ei hun ar ôl marwolaeth ei wraig.
Hefyd, beth yw’r heriau emosiynol ac ymarferol wrth gyfuno teuluoedd - a faint dylen ni fod yn rhannu am ein plant ar y cyfryngau cymdeithasol?
Jan 30, 2020
26 min

"Sdim byd ‘da ti ar ôl yn y tanc ambell i ddydd. Fi wedi eistedd ar waelod y stâr yn fy nagre..."
Sut beth yw cael tri o blant mewn 16 mis? "Pandemonium" yn ôl ein gwestai, yr actor Rhys ap William.
"Symo dy gar di ddigon o seis, symo dy dŷ di ddigon o seis a dyw dy bank balance di ddim digon o seis..!"
Jan 23, 2020
32 min

“Ma’r babi’n cyrraedd a chi’n ffeindio bo’ chi ffili neud dim byd o hanfodion bywyd - fel mynd i’r tŷ bach, bwyta, cysgu..!”
Ydy’r cyfnod cyntaf yna ar ôl cael babi wir yn ddiflas, yn undonog ac yn unig? Beth Jones a Siôn Tomos Owen sy’n trafod hunllefau’r wythnosau cyntaf ar ôl cael babi gyda’u gwestai Gwennan Evans.
Mae Gwennan yn awdur ac yn fardd sydd yn disgwyl ei hail blentyn. Er gwaetha’r diffyg cwsg, mae’n dal i chwerthin - a hyd yn oed wedi rhoi cynnig ar stand yp.
Jan 16, 2020
30 min

Croeso i’n pod bach newydd-anedig perffaith ar gyfer rhieni!
Yn anffodus ‘dyw bod yn rhieni ddim yn dod â chyfarwyddiadau – ond ry’n ni gyd yn gwneud ein gorau glas.
Beth Jones, Siôn Tomos Owen a’u gwesteion sy’n trin a thrafod yr holl brofiadau boncyrs o fod yn rhieni a magu plant.
Jan 13, 2020
55 sec
