
A ydych chi erioed wedi meddwl... pa flas milkshake yw ffefryn pobl Llanbed?! Mewn sgwrs gydag Bro360, mae Elliw Dafydd o fferm Gwarffynnon yn trafod y ffordd mae’r cwmni teuluol, sy’n cynhyrchu llaeth ers dros 30 blynedd, wedi addasu, mentro... a llwyddo!
Dec 18, 2020
30 min

Cwrw Ogwen a’r Welsh Whisperer: Y bartneriaeth berffaith ar gyfer Podlediad diweddaraf Blas o’r Bröydd. Cawn drafod y ffordd mae’r criw o hogiau lleol wedi addasu i heriau’r flwyddyn, lansiad dau gwrw newydd sbon a’r gred bod bob syniad da yn cychwyn mewn tafarn neu ar gwrs golff!
Dec 15, 2020
33 min

Pinafal ar bitsa, tyndra hefo twristiaid a theimlo fel superhero yn gwneud danfoniadau bwyd - dim ond rhai o bynciau trafod Podlediad diweddaraf cyfres Blas o’r Bröydd.
Dec 7, 2020
52 min

Ail-gysylltu, gwichiaid a golchi llestri - Sgwrs gyda Mam a Mab o gwmni Cosyn Cymru i drafod yr hynt a helyntion o gynhyrchu caws ac iogwrt ar Fferm Moel y Ci yn Nhregarth.
Nov 30, 2020
33 min

Boreau coffi yn yr awyr agored, cerddoriaeth byw a sesiynau yoga - Sgwrs gyda Steffan o gwmni coffi Poblado, Dyffryn Nantlle i drafod y modd mae’r cwmni wedi addasu dros y misoedd diwethaf.
Nov 24, 2020
41 min
