
Yn ôl yn 1995, bu Nic Parry yn westai ar raglen Beti a'i Phobol. Bellach, 31 mlynedd yn ddiweddarach, gwahoddodd Beti George ef yn ôl i gadw cwmni iddi yn Eisteddfod y Garreg Las, Llantwd, 2026, a hynny o flaen cynulleidfa ym Mhabell y Cymdeithasau.
Cyfreithiwr ifanc oedd Nic bryd hynny, yn sylwebu ar gemau pêl-droed ac yn dad ifanc. Ers hynny, mae wedi dringo i frig ei broffesiwn gan ddod yn Farnwr, tra'n parhau â'i waith fel un o sylwebwyr pêl-droed mwyaf adnabyddus Cymru. Mae hefyd yn gwasanaethu fel Llywydd Llys yr Eisteddfod ac, erbyn hyn, yn daid balch.
Yn ystod y sgwrs mae cyfle i edrych yn ôl dros daith ryfeddol o dri degawd, gan olrhain y datblygiadau yn ei yrfa a'i fywyd personol ers ei ymddangosiad cyntaf ar y rhaglen.
Hefyd, mae'n trafod yr heriau sy'n wynebu carchardai ym Mhrydain, cyflwr y system gyfreithiol, a'i bryder cynyddol am effaith newid hinsawdd.
Aug 16
45 min

Gyda dros 40 mlynedd o brofiad ym myd newyddiaduraeth, does neb sy’n adnabod gwleidyddiaeth Cymru yn well na Vaughan Roderick, ac ef yw gwestai Beti a’i Phobol yr wythnos hon.
Mae Vaughan yn gyfarwydd i wrandawyr Radio Cymru a Radio Wales, lle mae’n cyflwyno rhaglenni gwleidyddol ar fore Sul, ac mae hefyd yn cyd-gyflwyno’r podlediad poblogaidd Gwleidydda ochr yn ochr â Richard Wyn Jones.Yn y rhaglen, cawn glywed hanesion difyr ei fywyd a’i fagwraeth. Yn fachgen ifanc, roedd yn cadw ieir ac yn eu henwi ar ôl gwleidyddion y dydd.Datblygodd y diddordeb mewn gwleidyddiaeth a hanes yn ifanc iawn. Mae’n cofio etholiad cyffredinol 1964 yn fyw, er mai tua saith oed yn unig oedd pan gafodd ei gynnal. Yn y blynyddoedd wedyn, bu’n dilyn rhai o isetholiadau mawr y 1960au, gan fynd gyda’i dad i gyfarfodydd ac ymgyrchoedd mewn ardaloedd fel Gorllewin y Rhondda a Chaerffili.
Yn yr ysgol, roedd Hanes a Hanes Cymru ymhlith ei hoff bynciau.Mae Vaughan hefyd yn trafod ei gyfnod ym Mhrifysgol Bangor, pan oedd y mudiad cenedlaetholgar a diwylliannol Cymraeg yn arbennig o gryf.
Wedi gadael y brifysgol, bu’n gweithio yn Sain Ffagan yn archifo sgyrsiau llafar cyn dechrau ei yrfa ddarlledu gyda gorsaf radio fasnachol CBC. Yn ddiweddarach, ymunodd â’r BBC, lle sefydlodd ei hun fel un o newyddiadurwyr gwleidyddol amlycaf Cymru.
Mae’n mynegi pryder am ddyfodol newyddiaduraeth, gan dynnu sylw at y cyflogau isel sy’n wynebu llawer sy’n dechrau yn y proffesiwn heddiw. Mae hefyd yn edrych yn ôl ar ddiwylliant ystafelloedd newyddion hanner canrif yn ôl, gan gynnwys y diwylliant yfed a oedd yn rhan amlwg o’r byd hwnnw ar y pryd.
Fel rhan o’r sgwrs, mae Vaughan yn dewis pedair cân sydd yn arbennig iddo, gan gynnwys Emyn Groeswen a Rhywle Draw Dros yr Enfys gan Tara Bethan.
Aug 2
52 min

Hedydd Hughes yw gwestai Beti George. Mae hi wedi ymroi i ddiogelu traddodiadau ac etifeddiaeth ardal Sir Benfro. Mae wedi sefydlu gwefan sydd yn casglu cyfraniadau am hanes ardal Abergwaun ac yn mynd o gwmpas ysgolion yn cyflwyno chwedlau ac arferion yr ardal. Bu hefyd yn gweithio ar brosiect oedd yn canolbwyntio ar gyfoeth ieithyddol y Sir. Mae hi'n fam i 3 o blant ac yn byw yn Pen-caer, ac yn cadw bythynnod gwyliau. Mae hi wedi dewis caneuon gan fandiau o'r ardal ac mae aelodau o'i theulu yn chwarae ynddynt sef Lafant, Bwca a Y Dhogie Band. Cawn hefyd glywed ei thafodiaith hyfryd wrth iddi ddarllen darn bach o Bwll Deri.
Jul 26
49 min

Mae Dr Simon Brooks yr ysgolhaig, awdur a hanesydd o Gymru a anwyd yn 1971, sy’n gweithio fel Athro Cysylltiol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn arbenigo mewn meysydd fel hanes, theori wleidyddol, aml-ddiwylliannedd a pholisi cyhoeddus. Mae wedi cyfrannu’n sylweddol at fywyd deallusol Cymru fel cyn-olygydd cylchgrawn Barn ac fel awdur llyfrau dylanwadol megis Pam na fu Cymru a Hanes Cymry. Yn ogystal â’i waith academaidd, mae hefyd wedi gwasanaethu fel cynghorydd i Lywodraeth Cymru ar faterion sy’n ymwneud â’r iaith Gymraeg a pholisi cymunedol, gan ddylanwadu ar ddatblygu polisïau cyhoeddus yng Nghymru. Simon wnaeth hefyd sefydlu y cylchgrawn Tu Chwith. Fe fydd yn cyhoeddi llyfr arall yn yr Hydref o'r enw Lloegr Gymraeg, ac mae'n trafod y llyfr yma gyda Beti George. "Mae'n bosib y bydd AI yn achub y Gymraeg" mae hefyd yn sôn am newid hinsawdd a'r heriau ddaw gyda hynny, ac yn trafod sut y gwnaeth y capeli Cymraeg achub yr iaith yn eu dydd.Mae hefyd yn wynebu heriau gyda'i iechyd, ac yn trafod ei ddiagnosis o Myeloma a'r driniaeth ryfeddol mae e'n ei derbyn ym Manceinion, a'r gofal arbennig mae o wedi ac yn ei dderbyn yn Ward Alaw, Ysbyty Gwynedd. Mae'n hoff o gefnogi tîm pêl-droed Porthmadog, ac yn dad i 2 o blant.Un o'r dewisiadau cerddorol yw Haf yn Llundain gan Treiglad Pherffaith, gan iddo gael ei eni yn Llundain ac mae'r gan yn sôn am fywyd yn Llundain yn yr 80au - ac mae'n falch o fod yn Gymro o'r brifddinas.
Jul 19
52 min

Emyr Gibson yw gwestai Beti a'i Phobol, mae'n actor a thenor, yn DJ ac yn Ymarferydd Creadigol o Ddeiniolen, Gwynedd, sy’n adnabyddus hefyd am chwarae rhan Meical yn Rownd a Rownd rhwng 2000 a 2018. Yn ogystal â’i waith actio, mae’n perfformio fel canwr ledled Cymru ac wedi bod yn aelod o'r grŵp Trio ers 2013. Mae ganddo ddiddordeb arbennig mewn dementia drwy ei waith mewn cartref gofal, lle mae’n defnyddio cerddoriaeth i gefnogi trigolion sy’n byw gyda’r cyflwr. Mae hefyd wedi ymddangos mewn nifer o gynyrchiadau teledu, theatr a radio, gan gynnwys cyfraniadau i MônFM. Mae hefyd yn gwneud gin. Mae'n Dad balch i ddwy ferch, ac yn dewis 4 can gan gynnwys 'Sa Neb Fel Ti gan Eden.
Jul 12
48 min

Rhaglen o'r archif lle mae Beti George yn holi y diweddar Phyllis Kinney, nôl yn 1997.Roedd y gantores Phyllis Kinney, a'i diweddar ŵr, Dr Meredydd Evans, yn cael eu hystyried yn ddau o ffigyrau pwysicaf a mwyaf dylanwadol cerddoriaeth draddodiadol Cymru.Er iddi ddechrau ei gyrfa fel cantores opera yn yr Unol Daleithiau, daeth cerddoriaeth werin yn ganolog i fywyd a gwaith Phyllis. Yng Mangor y cyfarfu â'r ysgolhaig a'r cerddor gwerin Merêd Evans, ac fe briododd y cwpl cyn symud i fyw i'r Unol Daleithiau ar ddechrau'r 1950au.Wedi iddynt ddychwelyd i Gymru, ymroddodd Phyllis a Merêd i gasglu, diogelu a hyrwyddo traddodiad canu gwerin Cymru, gan sicrhau bod caneuon gwerin yn cael eu cadw ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
Cyfrannodd Phyllis yn helaeth at y maes drwy gyhoeddi erthyglau, papurau academaidd a llyfrau uchel eu parch ar gerddoriaeth. Dyma gyfle i wrando ar y sgwrs gynnes a chofiadwy Phillys Kinney gyda Beti George yn 1997.
Jul 6
35 min

Gwestai Beti George yw y pêl-droediwr Lili Jones o Wrecsam. Fe dreuliodd 4 tymor yn chwarae i Everton gan ddechrau yn 12 mlwydd oed, yna fe ymunodd a thîm merched Wrecsam ble mae hi'n byw ac yn paratoi i chwarae yn Ewrop am y tro cyntaf. Fe gafodd ei derbyn i'r Orsedd llynedd yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, ac mae hi hefyd yn ymddangos yn y gyfres ffilm boblogaidd 'Welcome to Wrexham' gyda dau actor Hollywood, Ryan Reynolds a Rob McElhenney. Mae Lili'n sôn sut mae pêl droed a chwaraeon yn medru helpu iechyd meddwl ac yn dewis 4 cân yn cynnwys can gan Ryan a Ronnie.
Jul 5
44 min

Eurig Wyn Jones sydd yn wreiddiol o'r Fali, Ynys Môn, yw gwestai Beti George. Dechreuodd Eurig ei yrfa gyda chwmni Barcud Cyf ynystod y 1990au, gan weithio ar raglenni fel Noson Lawen, Slot Sadwrn a Noc Noc yn yr adran sain.Ar ôl graddio o Brifysgol Caerdydd, treuliodd bum mlynedd yn Llundain fel dadansoddwr patentau, cyn gweithio i Sony yn yr Almaen fel peiriannydd patent.Yn ddiweddarach, bu’n gweithio gyda Johnson & Johnson yn y maes diabetes, lle ysgogwyd ef i ddatblygu ffordd well o fonitro lefelau glwcos. Arweiniodd hyn at sefydlu Ego Medical, cwmni a gododd €130 miliwn i ddatblygu monitor glwcos parhaus, er na lwyddodd y cynnyrch i gyrraedd y farchnad.Wedi hynny, cwblhaodd ei gymwysterau fel atwrnai patentau, gan barhau i weithio ym maes eiddo deallusol. Yn fwy diweddar, mae wedi canolbwyntio ar ddeallusrwydd artiffisial (AI), sydd bellach yn rhan allweddol o’i waith.Yn 2017, aeth Eurig i Awstralia i siarad mewn cynhadledd ar ddeallusrwydd artiffisial a phatentau. Yn dilyn marwolaeth sydyn ei dad, dechreuodd ailystyried ei ddyfodol a theimlo bod angen newid cyfeiriad, gyda’r gobaith o ddychwelyd i Gymru rhyw ddydd.Mae hefyd yn myfyrio ar ei benderfyniad i sefydlu ei gwmni yn yr Almaen yn hytrach nag yng Nghymru oherwydd diffyg buddsoddiad a chyfleoedd ar y pryd.Yn ystod y sgwrs, mae’n rhannu sawl hanes difyr am ei fywyd ac yn dewis pedair cân arbennig iddo, gan gynnwys traciau gan Celt a Mei Gwynedd.
Jun 28
49 min

Beti George sydd yn cael cwmni Hannah Parr sydd yn sylwebu ar S4C yn y Sioe Frenhinol yng Nghymru ac yn Horse of the year. Mae Hannah hefyd yn athrawes Gymraeg yn Ysgol Bro Pedr, Llanbedr Pont Steffan; yn fridwraig ceffylau yn Llangeitho; ac mae ganddi siop ddillad yn Aberaeron sydd yn apelio at bobol sy'n byw yng nghefn gwlad, ac mae hi'n cael cymorth ei rhieni i redeg y busnes ac i ofalu am y ceffylau.Fe symudodd y teulu i Gymru o Birmingham pan oedd Hannah yn 5 oed, 'roedd hi'n fodlon symud os oedd ei thâd yn fodlon prynu dolffin neu geffyl iddi. Cadwodd ei thad ei air, a daeth y merlen yn ddechrau ar daith newydd i’r teulu, a fyddai’n cysylltu’n agos â gyrfa Hannah heddiw.Mae hi’n cystadlu mewn dosbarthiadau arddangos ceffylau a disgyblaethau marchogaeth eraill fel marchogi amatur a dangos mewn llaw.Cawn hanesion difyr ei bywyd ac mae hi'n dewis ambell i gân, yn cynnwys 'Sebona Fi' gan Yws Gwynedd sydd wastad yn codi ei chalon.
Jun 21
49 min

Mae’r tenor o Gymru Aled Hall wedi perfformio repertoire sy’n ymestyn o Mozart i Wagner gyda chwmnïau opera a cherddorfeydd ledled y byd.Fe’i ganwyd yn 1968 ym Mhencader, Sir Gaerfyrddin yn fab fferm. Doedd dim pwysau arno i aros adref i ffermio, ac fe aeth i'r brifysgol i Aberystwyth i ddechrau i astudio cerdd. Mae bellach yn canu mewn tŷ opera yn Covent Garden, Llundain ers dros 11 mlynedd, ac wedi dilyn gyrfa fel canwr ers 30 mlynedd. Mae’n gantor opera proffesiynol sydd wedi perfformio ar lwyfannau mawr ledled y byd. Mae hefyd yn aelod o’r grŵp “The Three Welsh Tenors”. Cawn hanesion difyr ei fywyd, ac mae'n dewis ambell gan yn cynnwys un gan Stuart Burrows.
Jun 14
49 min
Load more
