Am Filiwn
Am Filiwn
Prifysgol Bangor
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr!Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol.Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando!Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru!Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
Am Lwyfan
Pam bod cymaint o berfformwyr yn dewis dilyn cwrs dysgu? Ydy hi wir yn bosib cael yr un wefr â’r theatr, y gig neu’r stiwdio o flaen disgyblion?Mi fydd Rhian-Mair Jones yn holi’r canwr, John Ieuan Jones, Marged Rhys sy’n aelod o’r band gwerin Plu, Lora Lewis, sydd wedi treulio blynyddoedd yn llais cefndir i sawl grŵp, yr actores, Victoria Pugh, Rhys Edwards o Fleur de Lis a’r pennaeth ysgol, Gareth Owen, er mwyn gweld pa mor hawdd ydy symud o’r llwyfan a’r llifoleuadau i awditoriwm gyffrous yr ystafell ddosbarth.
Aug 11, 2023
59 min
Beth, pam a sut ydyn ni’n trawsieithu?
Bydd y Dr Cen Williams a fathodd y term trawsieithu, Yr Athro Enlli Thomas, Dr Bryn Jones o Brifysgol Bangor a Dr Sian Lloyd-Williams, Prifysgol Aberystwyth a myfyrwyr AGA Prifysgol Bangor yn mynd i’r afael â thrawsieithu yn y podlediad yma.
Jul 7, 2023
52 min
Am Lythrennedd
Pam bod gennym ni Fframwaith Llythrennedd? Sut mae dod i ddeall bod llythrennedd yn hanfodol ar draws y cwricwlwm? Dafydd Roberts a Medi Wyn Edwards o GwE, a Sion Owen o Brifysgol Abertawe sy’n trafod y datblygiadau diweddaraf yn y sectorau cynradd ac uwchradd a’r cyffro newydd am lythrennedd.
Jun 23, 2023
53 min
Am Drochfa
Beth am blymio i’r dwfn efo ni ar ymweliad â Chanolfan Iaith Porthmadog yng Ngwynedd er mwyn dysgu mwy am natur y gwaith eithriadol sy’n digwydd yno dan ofal Cari Haf Lewis.Mi gawn ni gyfarfod Jess a Chloe a’u rhieni - dwy ferch arbennig sy’n hapus braf yn sgwrsio yn y Gymraeg yn dilyn eu trochfa ddwys yn yr iaith.
Jun 9, 2023
47 min
Am Drochi
Mae ymchwil yn dangos mai trochi disgyblion mewn iaith newydd yw’r ffordd orau o gaffael yr iaith honno. Ond beth yn union yw trochi a phryd mae o’n digwydd?Er mwyn gwybod mwy am werth y gwaith anhygoel sy’n digwydd mewn gwahanol ganolfannau a deall mwy am y cefndir academaidd, ymunwch efo Nesta Davies, Pennaeth Uned Iaith Ynys Môn, Dr Mirain Rhys, darlithydd ym Mhrifysgol Met Caerdydd a Siân Alwen, Pennaeth Mewn Gofal Ysgol Glan Clwyd er mwyn bwrw goleuni ar drochi.
May 26, 2023
57 min
AmDani
Ar ben pob dim arall, mae’r Siarter Iaith a’r pwysau ar athrawon ddatblygu Cymraeg Cymdeithasol y disgyblion! Beth ydy pwrpas hyn?Ymunwch efo Gwenan Ellis Jones, Awdurdod Addysg Gwynedd, Iona Llŷr o Awdurdod Addysg Sir Caer, Gareth Williams, Dirprwy Bennaeth Ysgol Gyfun Gŵyr, a disgyblion Ysgol Brynrefail er mwyn cael deall yn union pam bod datblygu a defnyddio’r iaith y tu allan i furiau’r dosbarth yn hanfodol ac amhrisiadwy wrth fynd amdani am y miliwn.
May 12, 2023
52 min
Croeso i bodlediad Am Filiwn
Croeso i bodlediad Am filiwn fydd yn trin a thrafod agweddau ar fyd athro sy’n arwain at gynyddu a datblygu disgyblion i fod yn siaradwyr Cymraeg ac anelu at greu miliwn o siaradwyr!Bydd y gyfres yn mynd o dan groen addysg drochi, gwyrth y canolfanau iaith, defnydd cymdeithasol o’r Gymraeg, llythrennedd, trawsieithu yn ogystal ag agor y drws i nodweddion athro cyfrwng Cymraeg effeithiol.Os ydach chi yn dilyn cwrs hyfforddi athrawon, yn athro newydd gymhwyso neu ar ddechrau’ch gyrfa neu’n aelod or’ tîm rheoli yna dewch i wrando!Cewch syniadau ymarferol, llawr-dosbarth ar gyfer eich cwrs hyfforddi athrawon, cynllun datblygu a hyfforddiant mewn ysgol neu ymchwil personol yng nghwmni pobl sy’n deall yn athrawon, ymarferwyr, arbenigwyr ac ymchwilwyr profiadol ar draws Cymru!Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn ar gyfer AGA, Prifysgol Bangor mewn cydweithrediad gyda sefydliadau Addysg Gychwynnol Athrawon Cymru.
May 5, 2023
1 min