Am Blant Podcast

Am Blant

Y Pod Cyf.
Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill.Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
Sut mae plant yn dysgu neu'n caffael iaith? A ydy trochi iaith yn effeithiol?
Gwrandewch ar y drafodaeth ddifyr a chyfoes hon yng nghwmni aelodau'r panel: Owain Gethin Davies (Pennaeth Ysgol Dyffryn Conwy), Alaw Humphreys (Mudiad Meithrin) ac Esyllt Hywel Evans, yr Athro Enlli Thomas, a Dr Nia Young o Ysgol Gwyddorau Addysgol Prifysgol Bangor.
Sep 22, 2022
45 min
Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?
Sut mae cerddoriaeth, celf a drama yn cyfrannu at ddatblygiad plentyn?Podlediad wedi recordio’n fyw ar faes Eisteddfod Tregaron gyda Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cerys Edwards, Elen ap Robert, Dr Mair Edwards a Dr Nia Young.
Aug 8, 2022
1 hr 12 min
Beth ydy chwarae?
Beth ydy chwarae? Pa bryd rydan ni'n rhoi'r gorau i chwarae? Beth ydy pwrpas chwarae? Gwrandewch ar y 6ed podlediad yn y gyfres o bodlediadau AM BLANT i glywed y drafodaeth gan aelodau'r panel a sylwadau pobl ifanc am eu profiadau nhw o chwarae. Mwynhewch y gwrando!
Jun 14, 2022
50 min
Llais Rhieni
A ydy agweddau cymdeithas wedi newid tuag at blant a phobl ifanc sydd ag anghenion dysgu neu anableddau corfforol a sut mae'r cyfnod Cofid wedi effeithio arnyn nhw? Ydan ni'n gwrando digon ar y rhieni a'r gofalwyr?I gael gwybod mwy gwrandewch ar bodlediad rhif 5 yn y gyfres AM BLANT yng nghwmni Elin Llwyd Morgan (mam Joel sydd ag awtistiaeth), Sion Meredith, tad Huw (sydd a Syndrom Down), Dr Nia Young (darlithydd ym Mhrifysgol Bangor), Bethan Morris Jones, (Pennaeth Ysgol Pendalar, Caernarfon) a Lora Glynwen Williams, Swyddog Ansawdd, Gwasanaeth ADYaCH Gwynedd a Môn.
May 19, 2022
50 min
Hawliau Plant
Yn y podlediad yma mae Rowena Hughes Jones, Dr Ceryl Davies, Gwenan Prysor, Arwyn Roberts a Chomisiynydd Plant Cymru, Yr Athro Sally Holland, yn ymuno efo Rhian Tomos i drafod hawliau plant a phobol ifanc. Ydy plant yn gwybod pa hawliau sydd ganddyn nhw? A oes angen ychwanegu at yr hawliau yng ngoleuni Cofid 19? Gwrandewch ar y podlediad i gael gwybod mwy.
Feb 8, 2022
1 hr 4 min
Beth sydd ei angen ar blentyn...?
Beth sydd ei angen ar blentyn er mwyn tyfu, datblygu a ffynnu? Yn y podlediad hwn mae Ian Keith Jones (Pennaeth Ysgol San Sior, Llandudno) yn ymuno efo Dr Nia Young, Dr Siwan Roberts, Dr Margiad William a Rowena Hughes Jones o Ysgol Gwyddorau Addysg, Prifysgol Bangor i drafod beth sydd ei angen ar blentyn i ddatblygu a ffynnu.Pa mor bwysig ydy modelau rol, cysondeb a sefydlogrwydd? Beth ydy bod yn riant da?
Jan 11, 2022
47 min
Beth yw ieuenctid?
Yn y bennod yma Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Owain Gethin Davies, a Ceryl Davies yn trafod beth yw ieuenctid? Sut beth ydy bod yn berson ifanc yng Nghymru heddiw? Faint o ryddid sydd ar gael iddynt a sut fath o ddyfodol sydd o'u blaenau?
Dec 7, 2021
54 min
Beth yw Plentyndod?
Yn y podlediad cyntaf hwn mae Dr Nia Young, Dr Sian Wyn Siencyn, Rowena Hughes Jones a Ceryl Davies yn trafod beth ydy ystyr plentyndod, beth mae'n olygu i fod yn blentyn yng Nghymru heddiw ac a ydy cymdeithas yn gwrando ar lais y plentyn.
Nov 11, 2021
49 min
Croeso i bodlediad Am Blant
Croeso i bodlediad Am Blant. Podlediad sy’n trin a thrafod pynciau sy'n effeithio ar blant a phobl ifanc yng Nghymru heddiw yn ogystal a chael gwybod barn plant a phobl ifanc.Bydd darlithwyr o Brifysgol Bangor ac arbenigwyr sy'n gweithio gyda phlant a phobl ifanc mewn gwahanol feysydd yn trafod materion fel chwarae plant, datblygu iaith trwy gerddoriaeth, anawsterau dysgu, effaith Cofid ar blant a llu o bynciau difyr eraill.Diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i ddatblygu a chreu'r podlediadau hyn.
Nov 5, 2021
56 sec