Yr Haclediad
Yr Haclediad
Haclediad
Sneaky Nest a Robo-Iest
1 hour 34 minutes Posted Mar 15, 2019 at 12:00 pm.
0:00
1:34:13
Download MP3
Show notes

Dewch i ymuno efo Bryn, Sioned a Robot Iestyn am bennod arall o’ch hoff podlediad tech/gin/box sets!

Byddwn ni’n trafod Google yn sneakio meicroffôn mewn i’r system gartref Nest, Spotify yn prynnu rhwydwaith Gimlet a platfform podcasts Anchor a Plygiaduron (foldable phones, bathu gwych!)

Mae gwestai arbennig genno ni mis yma hefyd - Carl o dîm Haciaith Caerfyrddin 2019, bydd o’n sôn am sesiynnau a datblygiadau’r gynhadledd i’r byd digidol Cymraeg.

Ymddiheuriadau am safon sain Iestyn, mae o’n troi’n bionic.

Special Guest: Carl Morris.

Support Yr Haclediad

Links: