
Hunan-Werth
Mae pob hunan ohonon ni’n cyflwyno ‘ffrynt’ i’r byd weithiau. Rydym ni gyd yn cael diwrnodau lle byddai’n well gennym guddio o’r byd, ond ni’n gorfodi’n hunain i wisgo a gwenu, fel pe bai popeth yn iawn. Y gwirionedd yw nad oes neb wir yn gwybod fel mae rhywun arall yn teimlo ar y tu fewn. A thra ein bod ni’n gallu gweld a gwerthfawrogi eu gwerth, efallai bod nhw’n teimlo’n wahanol iawn amdanyn nhw’u hunain. Yn y bennod hon trafodir hunan-werth a’r cyfnodau tywyll ac anodd sy’n gallu effeithio ar bawb. Yn gwmni i Trystan mae’r gyflwynwraig teledu Mirain Iwerydd, sydd newydd orffen astudio ei gradd ym Mhrifysgol Aberystwyth; y newyddiadurwraig, cyflwynydd a chomediwraig, Lorna Prichard, a’r cwnselydd, Gareth Davies. Rhybudd cynnwys: hunan-niweidio Cyflwyniadau (1:15)Mirain, hunan-werth a iechyd meddwl yn ei harddegau (6:40)Stori Lorna a’i phrofiad hi o hunan-werth a iechyd meddwl (11:55)Gareth yn trafod fel mae diffyg hunan-werth yn gallu effeithio ar bawb (22:40)Pethe positif yn gallu dod o gyfnodau anodd (30:40)Effaith y cyfryngau cymdeithasol (32:40)Cyngor i rai sy’n gwrando (38:20)
This podcast uses Spreaker for stats. What this means Episodes play from the podcast's own servers, unmodified. Not affiliated with Podbay.
