Sgwrs?
Sgwrs?
myf.cymru
Jun 13, 2023 · 46 min

Anhwylder Personoliaeth ac Anhwylder Deubegwn

MP3
Mae salwch meddwl yn rhywbeth nad yw pobol yn aml yn gwybod sut i siarad amdano. Mae anwybodaeth, camddealltwriaeth a stigma hefyd yn gallu bodoli ynghylch â chyflyrau sy’n ymwneud â’r meddwl. Yn y bennod hon mae’r fyfyrwraig Tegwen Parry a’r actores a dramodydd Ceri Ashe yn ymuno gyda Trystan a’r cwnselydd Endaf Evans i drafod eu profiadau nhw o fyw gydag anhwylder personoliaeth ac anhwylder deubegwn. Mae’n sgwrs onest, agored, pwerus ac ysbrydoledig yn un. Rhybudd cynnwys: anhwylder bwytaBeth yw anhwylder personoliaeth a stori Tegwen (5:31)Beth yw anhwylder deubegwn a stori Ceri, gan gynnwys bod tri math ohono (7:52)Tegwen yn trafod anhwylder bwyta (19:07)Ceri yn trafod datblygu drama am anhwylder deubegwn (22:35)Endaf yn siarad am y modd gall cwnselydd helpu (28:42)Strategaethau ymdopi Tegwen (36:10) Beth mae diagnosis wedi meddwl i Ceri, ymdopi a bod yn agored (36:59)

This podcast uses Spreaker for stats. What this means Episodes play from the podcast's own servers, unmodified. Not affiliated with Podbay.