
Niwroamrywiaeth
Mae niwroamryiaeth yn derm i ni’n clywed yn fwyfwy amal, ac mae’n un sy’n cwmpasu nifer o gyflyrau gwahanol - gan gynnwys anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd, neu ADHD, awtistiaeth, dyslecsia a dyspracsia, ymysg eraill. Yn y bennod hon mae’r cwnselydd Endaf Evans, y fyfyrwraig Katie Phillips a’r gantores Non Parry yn dod ynghyd i rannu eu profiadau nhw o niwroamrywiaeth.Trafodir y modd mae cael diagnosis o ADHD ac awtistiaeth wedi newid y ffordd maen nhw’n gweld ac yn beirniadu eu hunain.Beth yw niwroamrywiaeth? (1:55)Non yn cael diagnosis o awtistiaeth (5:31)Katie yn mynd drwy’r broses o gael ei hasesu am ADHD (6:49)Profiad proffesiynol a phersonol Endaf o ADHD (9:58)Beth ydy’r nodweddion i edrych mas amdanyn nhw? (12:52)Diagnosis ddim yn beth negyddol (28:27)
This podcast uses Spreaker for stats. What this means Episodes play from the podcast's own servers, unmodified. Not affiliated with Podbay.
