Galwad Cynnar
Galwad Cynnar
BBC Radio Cymru
27/06/2020
57 minutes Posted Jul 3, 2020 at 6:44 am.
0:00
57:55
Download MP3
Show notes

Gerallt Pennant yn trafod Wythnos Ymwybyddiaeth Gwenoliaid Duon a hanes Canolfan Ryngwladol Adnoddau Daear Glyn Rhonwy gyda Math Williams a Ben Stammers.

Siôn Dafis yn sôn am flodyn prin ar y Gogarth sy’n dibynnu ar wyfynod, a beth fedrwn ni wneud i helpu peillwyr yn gyffredinol.

Dr Gethin Thomas a Dr Jess Mead Silvester yn trafod ymwelwyr tymhorol i'n moroedd, pysgod yr haul Mola mola, sydd wedi bod yn heidio cryn dipyn wrth i'r dŵr gynhesu.