Am Waith Cymdeithasol
Am Waith Cymdeithasol
Prifysgol Bangor
Gwasanaethau GISDA: Y pwysigrwydd o gydweithio hefo, cefnogi a grymuso pobl ifanc
44 minutes Posted Dec 7, 2023 at 10:05 am.
0:00
44:27
Download MP3
Show notes
Croeso i bodlediad ‘Am Waith Cymdeithasol’ ac i’r ail bennod yn y gyfres arbennig o 4 podlediad a ariannir gan Gronfa Cydweithio Cymunedol Prifysgol Bangor.

Prif ffocws y podlediadau yma ydi cydweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn codi ymwybyddiaeth o’u waith pwysig yn ymateb i heriau cymdeithasol o fewn ein cymdeithas ni.

Yn y rhifyn yma mae Reece Moss, Vex Ellis, Sian Tomos a Sharon Thomas o GISDA yn ymuno hefo Wendy Roberts i drafod y pwysigrwydd o gael gwasanaeth GISDA yng Ngwynedd.

Fyddech yn clywed am sut mae staff GISDA yn cydweithio hefo pobl ifanc, i hybu eu datblygiad a’u hyder, ac i sicrhau fod eu llais yn cael eu clywed.

Hefyd, fyddech yn clywed am rhai o’r heriau mwyaf i bobl ifanc ar hyn o bryd, a phwysigrwydd gwerthoedd megis trin pawb hefo parch a pheidio barnu unigolion.