Am Iechyd
Am Iechyd
Prifysgol Bangor
Pa effaith gaiff sefydlu Ysgol Feddygol ym Mhrifysgol Bangor ar iechyd pobl gogledd Cymru?
46 minutes Posted Oct 5, 2023 at 4:50 am.
0:00
46:06
Download MP3
Show notes
Dyma bodlediad arall yn y gyfres o bodlediadau AM IECHYD.

Bwriad y gyfres hon ydy rhoi platfform i ni gael trafod materion sy'n ymwneud ag iechyd a gofal a hynny trwy gyfrwng y Gymraeg.

Recordiwyd y podlediad hwn o flaen cynulleidfa fyw yn stondin Prifysgol Bangor yn Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd 2023 a hynny ar ddiwrnod lansio ymgyrch recriwtio Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor.

Mae'r newyddion bod ysgol feddygol newydd sbon ar fin cael ei sefydlu yma Mangor yn gyffrous iawn a mawr ydy'r edrych ymlaen at groesawu'r myfyrwyr cyntaf ym Medi 2024.

Ar gyfer y podlediad hwn, dan gadeiryddiaeth Dr Nia Jones, Arweinydd Rhaglen Meddygaeth, Prifysgol Bangor, cafwyd trafodaeth ddifyr yng nghwmni Dr Berwyn Owen (Prif Fferyllydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Fferyllydd Cymunedol, Penygroes), Dr Nia Hughes (Cyfarwyddwyr Meddygol Gofal Cychwynnol - Gorllewin), Dr Robin Parry (meddyg teulu), Dr Marc Edwards (Meddyg teulu ac Uwch ddarlithydd Clinigol mewn Addysg Iechyd, Prifysgol Bangor), a Sion O’Brien a Jasmine Blight (darpar feddygon).

Mwynhewch y gwrando!

Diolch i bob un o aelodau'r panel am fod yn barod i gyfrannu, i Aled Jones o gwmni Y Pod am y recordio a'r golygu a diolch i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol am y nawdd i gynhyrchu'r gyfres o bodlediadau.